Beth Rydyn Ni’n Ei Wneud

Mae HiCo yn darparu ystod o gymorth, cyngor ac opsiynau cefnogaeth ymarferol yn bennaf (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r sector cyhoeddus a sefydliadau nid er elw gan gynnwys y GIG, Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai, Darparwyr Gofal a Chymorth ac elusennau.

Sut rydyn ni’n gwneud pethau (cliciwch i agor)

Mae gennym rwydwaith amrywiol o gymdeithion gyda dealltwriaeth dda o ymarfer a pholisi.

Mae gennym gefndir o wasanaethau cyhoeddus, a chan gynnal gwerthoedd y gwasanaethau cyhoeddus mae gennym brofiad sylweddol o weithio mewn ystod eang o leoliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector.

Rydyn ni’n gwneud ein gwaith o safbwynt ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus’ ac yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydyn ni’n gallu darparu ein gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, ac yn gwneud hynny. Ry’n ni’n gwneud hyn nid oherwydd bod rhaid i ni, ond oherwydd ein bod eisiau. Mae’n rhaid i ni ddathlu a hyrwyddo diwylliant Cymru gyda’r iaith wrth ei chalon.

Rydym yn onest ac yn meithrin perthynas yn gyflym. Mae ein profiad o weithio mewn amrywiaeth o sectorau yn ein galluogi ni i feithrin perthnasoedd a chyfeillgarwch gan y gallwn uniaethu â’r heriau strategol a gweithredol yr ydych yn eu hwynebu. Mae ein cytbwysedd iach o sgiliau a phwrpas moesegol a rennir yn ein galluogi i feddwl yn amrywiol a rhannu profiad, sy’n arwain at gyfuniad unigryw sy’n greadigol ac yn realistig.

Rydyn ni’n seiliedig ar gryfderau. Mae adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda yn fwy moesegol ac yn ddull effeithiol at eich heriau a’ch cyfleoedd. Rydym yn defnyddio dull ymholi sy’n ddiolchgar, ac sy’n ein helpu i gael trafodaethau gwell, mwy diogel, mwy creadigol a phositif gyda’n cleientiaid.

Rydyn ni’n rhoi yn ôl. Rydym yn darparu mynediad i weithdai chwarterol am ddim sy’n berthnasol i’r heriau sector cyhoeddus sy’n effeithio ar les yng Nghymru. Mae’r rhain ar agor i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru.

Enghreifftiau o brosiectau (cliciwch i agor)

Social Care Wales & Partners

Cefnogi Dyfeisgarwch a Gwydnwch Cymunedol – cynyddu dulliau seiliedig ar leoedd at les.

Betsi Cadwaladr University Health Board

Archwilio’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal i ddylunio gwasanaethau gofal sylfaenol i’r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan amddifadedd ac anghydraddoldebau ledled Gogledd Cymru.

Academi Wales

Hwyluso Rhwydweithiau Her Lles ac Arweinyddiaeth a Rennir Prif Swyddogion Gweithredol, Cadeiryddion a Chyfarwyddwyr.

Community Housing Cymru

Rhaglen Dosbarth Meistr Arweinwyr Uchelgeisiol ar gyfer Cyfarwyddwyr a Phrif Swyddogion Gweithredol yn gweithio ledled tai cymdeithasol yng Nghymru.

West Wales Care Partnership

Datblygu fframwaith rhanbarthol ymarferol ar gyfer ymgysylltiad parhaus gyda chymunedau a rhanddeiliaid allweddol yn natblygiad gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles.

Cardiff County Council

Rhaglen Datblygu Rheoli ar gyfer rheolwyr yn gweithio ar brosiectau digartrefedd a thai â chymorth.

Aneurin Bevan University Health Board

Datblygu a chyflawni gweithdai ar gyfer staff Nyrsys a Gofal ar nodweddion cymdeithasol iechyd.

Powys Association of Voluntary Organisations

Datblygu strategaeth ar gyfer dyfodol gwirfoddoli ym Mhowys.

Bridgend County Borough Council

Darparu cyngor arbenigol i ddatblygu strategaeth cymorth tai, gofal a chefnogaeth 5 mlynedd ar gyfer pobl hŷn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Wales Council for Voluntary Action

Datblygu Strategaeth Dysgu a Datblygu newydd ar gyfer y rhwydwaith Cymorth Trydydd Sector Cymru i ddatblygu dull hyfforddi, dysgu a datblygu mwy cydlynol, cyson a digidol.

Credu

Datblygu arfarniad opsiynau seibiant i ofalwyr ym Mhowys.

Merthyr Tydfil & Rhondda Cynon Taff County Borough Councils

Datblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai ac asesiadau anghenion cymorth tai statudol – yn cynnwys strategaeth ddigartrefedd a chynllun cyflawni’r Grant Cymorth Tai.

Cwm Taf Morgannwg University Health Board

Asesiad Anghenion Iechyd pobl sy’n ddigartref o fewn ôl-troed Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

ENGHREIFFTIAU O GLEIENTIAID