Cymdeithion

CCLICIWCH I GAEL GWYBOD MWY AM BOB AELOD O’R TÎM


Andrew Rogers

Rwy’n adnabyddus am:

  • Fod ym mhobman, drwy roi cyngor technegol i brosiectau iechyd a chymunedol ledled sawl gwlad gan gynnwys yn Affrica, Canol Ewrop a gwledydd y Balcan gyda Sefydliad Iechyd y Byd a’r CU
  • Bod â phrofiad helaeth mewn iechyd y cyhoedd a hyrwyddo iechyd gan weithio ar bob lefel yn y DU i lywodraeth leol, a swyddi arweinyddiaeth y GIG dros dri degawd.
  • Hwyluso partneriaethau lles strategol a gweithredu arfer ar sail tystiolaeth ar draws sectorau.
  • Cryfhau lles cenedlaethau’r dyfodol drwy ddatblygu gweithlu iechyd y cyhoedd ehangach heddiw.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Iechyd y cyhoedd ecolegol, hyrwyddo iechyd a datblygu cymunedol.
  • Addysg rhaglenni iechyd y cyhoedd ar-lein ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.
  • Ymgorffori rheoli prosiectau a rhaglenni mewn theorïau newid realistig y gellid eu cyflawni.
  • Dod â chywirdeb manwl i brosiectau ymgynghoriaeth.
 

Andy Wright

Rwy’n adnabyddus am:

  • Ddatblygu mewnwelediad ystyrlon y gellid ei weithredu o’r sefyllfaoedd mwyaf heriol.
  • Mabwysiadu dull ar sail asedau, gan sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed gyda phwysigrwydd a gwerth cyfartal.
  • Rhoi cefnogaeth â ffocws yn y maes adfywio a datblygu cymunedol.
  • Cyflawni rhaglenni sgiliau a menter.
  • Sicrhau adnoddau ar gyfer sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus.
  • Cynlluniau strategol a dulliau ymarferol

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Ymchwil cymdeithasol a’r farchnad.
  • Cyflawni deilliannau strategol wedi’u hwyluso drwy gonsensws a gweithgaredd grŵp.
  • Egwyddorion ac ymarfer ymgysylltu ac ymgynghoriad.
  • Datblygu cymunedol ar sail asedau.

Anna Wynn Roberts

Rwy’n adnabyddus am:

  • Fod â rhwydwaith dda a dealltwriaeth helaeth o’r agenda polisi cyhoeddus gyda ffocws ar dai a gofal cymdeithasol.
  • Angerdd dros ddwyieithrwydd.
  • Bod â dulliau creadigol o ymgysylltu gyda rhanddeiliaid gan gynnwys rhai mwyaf bregus.
  • Bod yn angerddol am gyfiawnder cymdeithasol a sicrhau bod hyn wedi’i ymgorffori yn fy nghyflawniad.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Hyfforddiant, dysgu ar sail gweithredu, datblygu arweinyddiaeth, hyfforddi gweithredol.
  • Helpu arweinwyr i lywio polisi a rhethreg o ran cyflawni.
  • Dylunio a chynnal ymchwil gwaith maes gyda grwpiau defnyddwyr gwasanaeth amrywiol.
  • Hwyluso newid gyda chleientiaid drwy adeiladu perthnasoedd yn gyflym a gweithio ar sail cryfderau.
 

Bruce Whitear

Rwy’n adnabyddus am:

  • Adeiladu timau gyda phrofiad helaeth o’r sector i weithio gyda sefydliadau i ddatrys heriau amlasiantaethol cymhleth.
  • Hwyluso timau i ddatblygu gweledigaeth a rennir gref a gweithredu dros newid a datblygu.
  • Gwerthusiad gwrthrychol o wasanaethau a rhaglenni.
  • Ymgysylltiad ac ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Polisi Cyhoeddus yng Nghymru
  • Hwyluso
  • Gweithio partneriaeth a chydweithredol
  • Datblygu strategaeth
  • GIG Cymru

Edward Parkes

Rwy’n adnabyddus am:

  • Adeiladu timau perfformiad uchel drwy ddefnyddio dull ar sail cryfderau, adeiladu ymrwymiad i dargedau a rennir a ‘dysgu drwy wneud’.
  • Trosi bwriad strategol a hanfodion cynlluniau busnes i realiti gweithredol, llywio nodweddion sy’n dibynnu ar ei gilydd a buddion, dod â strwythur a ffocws a meddylfryd tîm.
  • Ymgorffori cynaliadwyedd drwy gefnogi perchnogaeth tîm, arferion sy’n cefnogi adolygu a gwelliant parhaus a’r prosesau sy’n galluogi trafodaethau anodd a phenderfyniadau effeithiol.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Gwella perfformiad
  • Effeithiolrwydd gweithredol
  • Dylunio sefydliadol a datblygu timau
  • Dimensiynau newid pobl.
 

Ena Lloyd

Rwy’n adnabyddus am:

  • Angerdd dros gysylltu pobl a sefydliadau ledled y sector cyhoeddus a’r trydydd sector fel bod pobl yn elwa.
  • Codi ymwybyddiaeth a herio’r anghydraddoldeb strwythurol yn narpariaeth y gwasanaethau cyhoeddus.
  • Annog cynaliadwyedd ledled yr holl wasanaethau cyhoeddus.
  • Rhwydwaith da yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Hyfforddi gweithredol
  • Hwyluso dwyieithog ar sawl ffurf
  • Cynnal digwyddiadau byw ar-lein ac wyneb yn wyneb.
  • Adolygiadau strategol a gweithredol

Hugh Irwin

Rwy’n adnabyddus am:

  • Fod â rhwydwaith dda a dealltwriaeth fanwl o’r agenda polisi cyhoeddus gyda ffocws ar dai a gofal cymdeithasol.
  • Bod yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol a helpu sefydliadau i daclo anghydraddoldeb strwythurol yn y ddarpariaeth gwasanaeth.
  • Cysylltu pobl, sefydliadau ac agendau ledled gwasanaethau sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
  • Helpu arweinwyr i lywio systemau cymhleth drwy safbwynt eu dinasyddion.
  • Sicrhau bod ymddygiad galluogi ar sail cryfderau ac egwyddorion seicoleg positif yn cael eu hystyried ym mhob rhaglen newid.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Datblygu arweinyddiaeth, hyfforddi gweithredol a dylunio sefydliadol.
  • Helpu arweinwyr i symud o bolisi a thrafod i gyflawni.
  • Adolygiadau strategol a gweithredol.
  • Hwyluso her ddiogel drwy feithrin perthnasoedd yn gyflym a defnyddio dull ar sail perthnasoedd.
 

John Hallett

Rwy’n adnabyddus am:

  • Weithio gyda phobl i greu, datblygu a chyflawni newid creadigol ac ystyrlon.
  • Gweithio ledled ystod amrywiol o sectorau mewn cymunedau.
  • Herio arferion presennol neu draddodiadol a datblygu gweithrediad ar y cyd.
  • Dechrau trefnu, cynllunio, datblygu a rheoli.
  • Datblygu a rheoli prosiect y prosiectau adeiladu cymunedol.
  • Mentora, rhannu arferion a ddysgir a datblygiad proffesiynol.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Cyd-gynhyrchu a datblygiad cymunedol ar sail asedau
  • Cynllunio strategol, gweithio ar draws sectorau i greu gwerth cymdeithasol.
  • Rheoli tîm a phrosiect.
  • Dechrau, datblygu a thyfu mentrau elusennol/cymdeithasol.
  • Datblygu asedau, cyllid a rheoli.
  • Cyllid a datblygu grantiau.

Martyn Palfreman

Rwy’n adnabyddus am:

  • Fod wedi gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol am bron 20 mlynedd.
  • Bod â rhwydwaith da ledled y sector cyheoddus.
  • Fy ngwybodaeth o bolisi cyhoeddus Cymru.
  • Fy nealltwriaeth fanwl o’r agenda iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan fy mod wedi gweithio ym maes datblygu polisi, cyd-ddylunio a chyflawni’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) a chefnogi integreiddiad a thrawsffurfiad gofal a chymorth.
  • Dod â phobl o sectorau a sefydliadau gwahanol at ei gilydd er mwyn newid.
  • Fy angerdd dros wella lles y dinasyddion.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Adeiladu partneriaethau effeithiol ac amlsector.
  • Adolygu sefydliadol a gwasanaeth.
  • Rheoli newid a gwella gwasanaeth.
  • Hwyluso
 

Nikki Cole

Rwy’n adnabyddus am:

  • Fod yn angerddol dros gydraddoldeb tai i bawb.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu datrysiadau ar gyfer datblygu tai cymdeithasol sy’n bodloni anghenion nawr ac i’r dyfodol.
  • Nodi’r gyrwyr a beth sy’n bwysig i bob partner er mwyn creu amgylchedd gwaith cydweithredol yn manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael er mwyn cyflawni’r deilliannau dymunol.
  • Hyfforddi a datblygu aelodau staff a bwrdd sefydliadau er mwyn gwella gwybodaeth i gefnogi’r broses benderfynu.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Proses ddatblygu strategol a gweithredol tai cymdeithasol.
  • Egluro’r broses adeiladu tai cymdeithasol
  • Adolygiadau strategol a gweithredol.

Sarah Prescott

Rwy’n adnabyddus am:

  • Prif Swyddog Ariannol ac Ysgrifennydd Cwmni (rol FD cyntaf yn 24 oed). 20 mlynedd o brofiad mewn rolau arweinyddiaeth, yn rhai dros dro a pharhaol. Cyfrifydd siartredig (wedi cael hyfforddiant PwC). NED profiadol. Wedi cyfrannu at bolisi cyllid lleol a chenedlaethol (SORP).
  • Arweinydd timau amlddisgyblaethol. Bob amser yn cyflawni canlyniadau sylweddol ac yn cael ysbrydoliaeth o ddeilliannau.
  • 20 mlynedd o brofiad mewn lleoliad nid er elw, yn gweithio gyda Byrddau, datblygu strategaeth ac adeiladu timau cynaliadwy ac effeithiol.
  • Hyfforddwr cymwys – dull cynnes ac ystyrlon o ran cael y gorau gan eraill.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Cyllid, Trysorlys, Arfarniad, Llywodraethu, risg a data.
  • Tai Cymdeithasol
  • Llythrennedd Carbon
  • Hyfforddiant ac arweinyddiaeth, cydraddoldeb ac amrywiaeth.
 

Steve Inett

Rwy’n adnabyddus am:

  • Ddatrys problemau a heriau drwy wrando, helpu i ddadansoddi’r sefyllfa a dod i ddatrysiadau gyda’n gilydd.
  • Gwella perfformiad, ansawdd a gweithio tîm gyda ffocws ar ddeilliannau drwy brosesau Rheoli Newid a Gwelliant Parhaus.
  • Cefnogi cydweithrediad gwell gyda’ch cymuned neu dîm.
  • Gwella cynaliadwyedd y sector gwirfoddol, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
  • Datblygu strategaethau a pholisi.

Ystyrir fy mod yn arbenigwr mewn:

 

  • Llais y claf a’r cyhoedd mewn Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thai
  • Ymgysylltiad ac ymgynghoriad cymunedol
  • Hwylusydd cyd-gynhyrchu
  • Rheoli dros dro a datrys problemau
  • Rheoli Prince2 a Phrosiectau Ystwyth
  • Datblygu bidiau a chyllid
  • Hyfforddwr cymwys